Psalms 82

Duw, y Brenin Mawr

Salm gan Asaff.

1Mae Duw'n sefyll i fyny yn y cyngor dwyfol;
ac yn cyhoeddi dedfryd yng nghanol y ‛duwiau‛.
2“Am faint ydych chi'n mynd i farnu'n anghyfiawn
a dangos ffafr at y rhai sy'n gwneud drwg?”

 Saib
3“Dylech roi dedfryd o blaid y gwan a'r amddifad!
Sefyll dros hawliau y rhai anghenus sy'n cael eu gorthrymu!
4Cadw'r rhai sy'n wan a di-rym yn saff
a'u hachub nhw o afael pobl ddrwg!”
5Ond dŷn nhw'n deall dim.
Maen nhw'n crwydro yn y tywyllwch,
tra mae sylfeini'r ddaear yn ysgwyd!
6Dywedais, “Duwiau ydych chi”,
“meibion y Duw Goruchaf bob un ohonoch.
7Ond byddwch yn marw fel pobl feidrol;
byddwch yn syrthio fel unrhyw arweinydd dynol.”
8Cod, O Dduw, i farnu'r byd!
Dy etifeddiaeth di ydy'r cenhedloedd i gyd.
Copyright information for CYM